Make it in Wales - Stiwdio 3

Dwi’n byw ac yn gweithio yn Aberystwyth, ond yn aml yn teithio lawr i Aberteifi i weld be sy’n digwydd yn y dref fywiog hon. Mae’n gret i weld cwmniau fel Hiut Denim, Bara Menyn, Theatr Mwldan, Crwst, Fforest a nifer o gwmniau eraill, yn ffynnu yn Aberteifi. I ychwanegu at y cwmniau yma, mae ‘Make it in Wales- Stiwdio 3.

“Sefydlwyd ‘Make it in Wales’ gan Suzi Park yn 2015. Am dair blynedd cynhaliwyd gweithdai crefft dan arweiniad dylunwyr talentog mewn gwahanol leoliadau ar draws Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Trosglwyddom i fod yn Gwmni Buddiant Cymunedol yn Rhagfyr 2018 ac agorwyd Stiwdio 3 ar y stryd fawr yn Aberteifi. Mae ‘Make it in Wales at Stiwdio 3’ yn fan cymunedol sy'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau crefft yn ogystal â chaffi, oriel a siop. Lle y gall pobl gyfarfod, bwyta, gwneud a chreu. ”

Ar y stryd fawr yn Aberteifi mae ‘Stiwdio 3’ yn cynnig gweithdai o lifo eco i gerfio modrwy arian ‘ch hunan, ‘upholstro’ stôl i wnïo'ch cot ‘ch hunan.

“Rydym bellach yn rhedeg y busnes fel sefydliad di-elw. Rydym yn croesawu unrhyw gyfleoedd i gydweithio ac i weithio ochr yn ochr â busnesau, gwneuthurwyr ac unigolion eraill i adeiladu ar fywiogrwydd ein Stryd Fawr. ”

Dwi ‘di bod yn cynnal gweithdai gyda ‘Make it in Wales- Stiwdio 3’, felly os hoffech chi ymuno edrychwch ar y gweithdai sydd ar gael yma. Mae yna hefyd siop hyfryd yn ‘Stiwdio 3’, lle gallwch ddod o hyd i'm clustogau a’m carthenni. Os ydych yn teithio tua’r gorllewin, gwnewch yn siŵr eich bod yn stopio yn Aberteifi ac yn dweud helo wrth griw ‘Make it in Wales- Stiwdio 3’.

Previous
Previous

NYTHU

Next
Next

CREU///MAKE