FI : LLIO
Ces i fy ngeni a’n magu mewn pentre’ bach o’r enw Tal-y-bont; poblogaeth o ryw 700 o bobl, ysgol gynradd, swyddfa bost, garej, fferyllfa a dwy dafarn. Beth arall dych chi angen ond Melin Wlân. Hyn oll yn y Gorllewin gwyllt, yng nghanol Cymru, ychydig filltiroedd o lannau mor Iwerddon a Bae gogoneddus Ceredigion. Dychmygwch y pentref gyda dwy Felin Wlân yn cynhyrchu brethyn gwlân y defaid man i wneud siwtiau trwsiadus. Prynwyd y gwlân gan y ffermwyr lleol, ei brosesu gan beiriannau a bwerwyd gan ddŵr, ei wehyddu a llaw, a’i olchi yn y ddwy afon gyfagos a’i werthu o’r fan a’r lle. Y cylch yn gyfan.
Yn anffodus erbyn i mi ddod i’r byd roedd y ddwy felin wedi cau. Tybed ces i fy ysbrydoli wrth fyw a chwarae ogwmpas un oedd yn sgerbwd o adeilad a’r llall fel tae wedi ei gadw mewn…….Wrth glywed eu hanes mewn gwersi yn yr ysgol gynradd ces i fy swyno wrth feddwl am fy mhentref bach tawel i unwaith yn ganolfan i ddiwydiant swnllyd, prysur ac angenrheidiol. Angenrheidiol ar gyfer cyflogau ac i ddilladu pobl. Ro’n i’n teimlo hyn i’r byw.
I fi mae perthyn i wlad a diwylliant yn bwysig. Un ffordd o fynegi hyn ydy trwy fy ngwaith. Dwi’n gweld gwehyddu a chreu brethyn yn ffordd o ddod a diwylliant a diwydiant at ei gilydd.
Es i ffwrdd i astudio tecstilau yng Ngholeg Celf Manceinion. Ar y pryd do’n i ddim yna i astudio hanes y diwydiant gwlân na hyd yn oed meddwl llawer am y cysylltiad â’m magwraeth. Beth daniodd fi oedd sylweddoli pa mor anferth ydy effaith tecstilau ar ein bywydau pob dydd? Meddylia amdano fe, ni’n cael ei’n geni a’n cwtsio mewn defnydd yn syth. Rhown ddillad ar ein cyrff bob dydd i gyffwrdd a’n croen. Troediwn ar garpedi, ar loriau pren, slabiau concrit ac weithiau ar strydoedd sydd wedi ei ffurfio o sets cerrig cobls / sets. Fe eisteddwn, gorweddian, diogi ar bethau sy’n ein cynnal a rhoi cysur i’n cyrff. Mae tecstilau a’i gwead /texture ym mhobman.
STIWDIO
Ar ôl Manceinion, es i Efrog Newydd i ennill profiad mewn stiwdio yn dylunio a gwehyddu plastig i greu defnydd i orchuddio ffenestri. Doedd gwehyddu plastig ddim i mi nag i’m dwylo, ond ces bethmwbreth o brofiad, sgwrsio, holi a meddwl yn bwyllog a hidlo fy niddordebau hyd yn oed yn fwy. Dychwelais adre i Gymru o America i weithio mewn Canolfan Dreftadaeth am ychydig cyn mynd nôl i fyd addysg a pharhau i astudio ym Mhrifysgol Bath Spa. Profiad wedyn o weithio i un o gynhyrchwyr mawr tartan Yr Alban yn Perth cyn dod 'nôl adre
Dwi’n gweithio ar wŷdd dobby draddodiadol sy’n llenwi pob cornel o fy stiwdio yn Splott, Caerdydd. Fel gwehydd llaw dwi’n gallu addasu’r gwaith fel yr â ymlaen gan ddefnyddio fy nwylo a’m llygaid i dyfu brethyn cyfoes o wlân. Er mai brethyn unigryw wedi wehyddu a llaw ar gyfer gofodau mewnol yw’r gwaith terfynol , beth sy’n bwysicach i fi yw mai defnydd i’w gyffwrdd a’i deimlo yw e; i’w ddefnyddio o genhedlaeth i genhedlaeth. Dwi’n mwynhau gweithio mewn gofod sy’n caniatáu i mi arbrofi gyda lliw, patrwm ac edafedd. Mae hefyd yn sicrhau fy mod yn gallu gweld y brethyn yn gweithio mewn gofod dydd i ddydd cyn datblygu’r dyluniad dewisiedig.
Mae lliw yn rhan fawr o’r broses ddylunio, edrych arno yn ei gyfanrwydd, y raddfa a’r siapiau geometrig. Dwi’n creu dyluniadau papur er mwyn i’m syniadau ddatblygu cyn symud ymlaen at y gwŷdd.
CYNHYRCHU
Mae gostyngiad anferth wedi bod yn y diwydiant gwlân yng Nghymru yn y degawdau diwethaf. Yn 1926 roedd 250 o felinau, erbyn 1967 dim ond 23 o felin oedd yn bodoli. Deg melin weithredol sydd yng Nghymru heddiw.
Fel y gellir dychmygu mae gwybodaeth eang, 50 mlynedd o brofiad, gan y gwehyddion sydd ar ôl yn y melinau. Mae cydweithio gyda nhw yn hanfodol, trafod y mân newidiadau ac yn ôl a blaen wrth ddatblygu’r gwaith gorffenedig. Fy nhrefn i ydy gwehyddu samplau ar fy ngwŷdd dobby cyn trafod cynhyrchu’r dyluniad gyda’r felin.
Dwi am ddatblygu’r berthynas rhwng y gwehyddu llaw a’r diwydiant gwlân. Yn ddiweddar dwi wedi cydweithio gyda Melin Wlan Bryste ac mae’r berthynas yn un clos a chynhyrchiol. Dwi eisiau parhau’r sgwrs gyda’r gwehyddion yn y felin i greu brethyn ar gyfer heddiw.