CREU///MAKE
17 Tachwedd 2018 - 30 Ionawr 2019, Oriel Davies, Y Drenewydd.
“Arddangosfa ydy Creu // Make sy'n archwilio cynhyrchion crefft cyfoes sydd yn cael eu gwneud gan Wneuthurwyr o bob rhan o Gymru, yn defnyddio crefftau gwledig traddodiadol sy’n cynnwys; crochenwaith, gwehyddu, gwneud cadeiriau, celf tecstilau, gwaith coed a mwy. Mae gan Gymru draddodiad cryf o sgiliau crefft, sy'n tynnu ar ein hanes fel lle sy'n creu pethau. Mae'r arddangosfa hon yn archwilio rhai o'r sgiliau anhygoel sy'n cael eu hymarfer ar draws Cymru gan bobl sy'n cadw'r traddodiad hwn yn fyw.
Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Jwrnal i gefnogi busnesau lleol, creadigol ac annibynnol ar draws Cymru. Yn ystod yr arddangosfa, bydd cyfleoedd i gwrdd â'r gwneuthurwyr, a rhoi cynnig ar rai o'r prosesau maen nhw’n eu defnyddio. Gallai hyn fod yn fan cychwyn ar gyfer datblygu eich gyrfa greadigol eich hun.
Rhannwch eich delweddau chi o’r arddangosfa a’r rheiny sydd wedi cael eu hysbrydoli ganddi, yn defnyddio'r hashtag #MakeWales #CreuDavies a pheidiwch ag anghofio tagio @jwrnal_wales ac @orieldavies
Platfform ydy Jwrnal ('journal') ar gyfer dogfennu a hyrwyddo gwneuthurwyr a chreadigwyr yng Nghymru. Lansiwyd Jwrnal yn yr Ŵyl The Good Life Experience yn 2017 ac ers hynny, mae wedi mynd ymlaen i ddatblygu platfformau ar-lein a ffisegol ar gyfer gwneuthurwyr a chreadigwyr ar draws Cymru.
Wedi'i guradu gan Sarah Hellen a Steffan Jones-Hughes
COED
Mandy Coates Basgedi Helyg
John Egan Gwneuthurwr Dodrefn
James Davies Gwaith Coed Gwyrdd
Rosie Farey Gwehyddu Rush
Louise Tucker Golau wedi’i gwehyddu
David White Coed/Whittling
Hannah Wardle Coed/Gosodiadau Golau
LLEDR
Alan James Raddon Gwneuthurwr Esgidiau
ARIAN
Maggie Cross Gemwaith
GWLAN
Helen Hickman Gwlân a Thecstilau
Llio James Tecstilau wedi’i Gwehyddu
Ruth Packham Tecstilau Ffelt a Gwlân
CLAI
Tim Lake Serameg
Jenny Murray Serameg
PAPUR
Tom Frost Argraffu Sgrin
Callie Jones Lino Cut
Claire Spencer Lino Cut