ARDDANGOSFA EDEFYN TYWYLLACH- Oriel Myrddin
15 Gorffennaf – 21 Hydref 2017
Alana Tyson, Eleri Mills, Indre Eugenija Dunn, Jayne Pierson ar y cyd â Neale Howells, Laura Thomas, Llio James, Philippa Lawrence, Rhiannon Williams, Rozanne Hawksley, Ruth Harries, Sally-Ann Parker a Spike Dennis.
“Mae gan Gymru draddodiad cydnabyddedig o greu tecstilau ymarferol ac addurnol sydd wedi’u dylunio mewn modd arbennig. O flancedi wedi’u gwehyddu ar wyddiau pŵer i gwiltiau wedi’u pwytho â llaw, mae tecstilau yn rhan allweddol o ddiwylliant a hanes gweledol Cymru.
Tra bod ‘Edefyn Tywyllach’ yn cymryd y dreftadaeth hon fel ei man cychwyn, gwahoddwyd deuddeg o artistiaid, dylunwyr a gwneuthurwyr cyfoes i arddangos gwaith sydd yn gwyrdroi’r disgwyliadau hyn.
Dewiswyd yr arddangoswyr oherwydd eu hymagwedd heriol, wrthdrawiadol neu annisgwyl at greu gwaith cwbl gyfoes sy’n croesi ffiniau celf, dylunio a chrefft yn hyderus. Ceir yma amrywiaeth o brosesau creu, ond maent i gyd yn defnyddio edau mewn rhyw ffurf.
Mae’r gweithiau yn gywrain, yn bryfoclyd, yn ddwys ac yn fregus, ac yn archwilio themâu eang megis grymuso, colled, iaith, tirweddau mewnol, y cof a rhyw i enwi ond ychydig. Efallai y bydd rhai o’r gweithiau yn dal i deimlo’n gysurus o gyfarwydd oherwydd y defnyddiau a ddefnyddir ynddynt neu’u paled lliw nodweddiadol ‘Gymreig’ o ddu, llwydfelyn a choch; y gobaith yw bydd llawer o’r gwaith yn teimlo’n anghyfarwydd.
Curadur: Laura Thomas.“