AELWYD - Craft in the Bay
18 Ionawr - 1 Mawrth 2020
Efallau eich bod wedi gweld arddangosfa ‘AELWYD’ yng Nghanolfan Grefft Rhuthun y llynedd? Os na fuoch ddigon ffodus, na phoener! Mae’r arddangosfa ‘di teithio lawr yr A470 i Fae Caerdydd. Nawr yw eich cyfle!
Aelwyd: mae teitl Cymraeg yr arddangosfa hon yn gyfystyr â chartref. Drwy eu deunydd, eu gwneud, eu stori neu eu defnydd, mae’r gwrthrychau yn yr arddangosfa hon yn archwilio synnwyr sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn o berthyn a chartref.
Bydd gwrthrychau’n cynnwys carthenni wedi’u gwehyddu â llaw gan Llio James a’r rheiny’n amheuthun o gyfoes a’r un pryd yn parhau’r traddodiad dylunio tecstilau Cymreig. Llestri unigryw Deiniol Williams sy’n ymgorffori cerrig a chlai a gasglwyd o’r dirwedd Gymreig. A chyfansoddiadau print torlun leino Sophie Scharer o wrthrychau cyffredin hoff sydd ag ôl traul.
Wrth archwilio’r affinedd rydyn ni’n ei deimlo tuag at wrthrychau wedi’u gwneud â llaw mae Aelwyd yn eich gwahodd i fwynhau un llwybr posibl tua’r gofod mewnol Cymreig cyfoes.
Artistiaid sy’n arddangos: Claire Cawte, Sarah Christensen, Mandy Coates, Ann Catrin Evans, Rosie Farey, Helen Flynn, Astrid de Groot, Simon Hulbert, Llio James, Sophie Schärer, Mick Sheridan, James and Tilla Waters, Neil Wilkin, Denial Williams and Yusuke Yamamoto.