AELWYD- Canolfan Grefft Rhuthun

AELWYD- Tua’r gofod mewnol Cymreig cyfoes

20 Gorffennaf – 13 Hydref 2019, Canolfan Grefft Rhuthun.

“Aelwyd: mae teitl Cymraeg yr arddangosfa hon yn gyfystyr â chartref. Drwy eu deunydd, eu gwneud, eu stori neu eu defnydd, mae’r gwrthrychau yn yr arddangosfa hon yn archwilio synnwyr sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn o berthyn a chartref.

Bydd gwrthrychau’n cynnwys carthenni wedi’u gwehyddu â llaw gan Llio James a’r rheiny’n amheuthun o gyfoes a’r un pryd yn parhau’r traddodiad dylunio tecstilau Cymreig. Llestri unigryw Deiniol Williams sy’n ymgorffori cerrig a chlai a gasglwyd o’r dirwedd Gymreig. A chyfansoddiadau print torlun leino Sophie Scharer o wrthrychau cyffredin hoff sydd ag ôl traul.

Wrth archwilio’r affinedd rydyn ni’n ei deimlo tuag at wrthrychau wedi’u gwneud â llaw mae Aelwyd yn eich gwahodd i fwynhau un llwybr posibl tua’r gofod mewnol Cymreig cyfoes.”

Curadur: Elen Bonner.

Claire Cawte, Sarah Christensen, Mandy Coates, Ann Catrin Evans, Rosie Farey, Helen Flynn, Astrid de Groot, Simon Hulbert, Llio James, Sophie Schärer, Mick Sheridan, James a Tilla Waters, Neil Wilkin, Deiniol Williams, Yusuke Yamamoto

Lluniau: Stephen Heaton

Previous
Previous

GWNEUD

Next
Next

NEW DESIGNERS - ONE YEAR IN