ROOTED IN PRACTICE - Craft in the Bay
29 Medi - 4 Tachwedd 2018, Craft in the Bay, Caerdydd
Yn ogystal a fy ngwaith personol, dwi’n gweithio fel darlithydd gwehyddu yn Ysgol Gelf Caerfyrddin. Wedi ei leoli yng Nghaerfyrddin, does unman tebyg iddo! Mae’n deg dweud mai YGC yw un o'r ysgolion celf 'traddodiadol' prin sydd gennym yng Nghymru. Mae'r staff yn annog rhyddid i fynegu, cyfleoedd i gydweithio, a chrefftwaith rhagorol. Dyma'r unig gwrs gradd yng Nghymru lle gallwch astudio gwehyddu. Dwi’n un o'r tiwtoriaid sy'n darparu gwehyddu ar y cwrs BA: Tecstilau: Gweu, Gwehyddu a Chyfryngau Cymysg.
Yn gynharach eleni fe ddathlodd yr ysgol 40 mlynedd yn ei leoliad presennol (Ffynnon Job) ac fel staff cawsom arddanosfa o’n gwaith. Mae'r arddangosfa hon wedi symud ymlaen i Gaerdydd ac mae posib ei gweld yn Craft in the Bay.
I ddarpar fyfyrwyr sy’n ystyried y byd celf byddai’n werth ymweld a’r arddangosfa gan ei bod yn dangos sgiliau a chrefftwaith y tiwtoriaid.
Dyma ddatganiad o’r arddangosfa:
"Rydym ni yn Urdd Gwneuthurwyr Cymru wrth ein bodd yn croesawu artistiaid a dylunwyr sy'n dysgu yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, Coleg Sir Gâr, i arddangos gyda ni hydref yma. Mae’r arddangosfa ‘Rooted in Practice’wedi'i guradu gan y dylunydd tecstilau, Laura Thomas sy hefyd yn diwtor yn y Coleg ac yn aelod o’r Urdd. Mae'r arddangosfa yn rhoi cipolwg o waith ac ymarfer celf y pump a’r hugain o’r staff presennol. Mae rhain hefyd yn artistiaid cyfoes yn gweithio mewn tecstilau, serameg, ffilm, cerflunwaith, argraffu a gemwaith.
Mae Ysgol Gelf Caerfyrddin yng Ngholeg Sir Gâr wedi bod yn darparu addysg gelf ers 1854, sef un o'r Ysgolion Celf cyntaf a sefydlwyd ym Mhrydain yn dilyn yr ‘Arddangosfa Fawr’ yn ‘Crystal Palace’ yn Llundain. Mae'r Ysgol Gelf wedi bod yn esblygu ers hynny, gan ymateb i ddatblygiadau cymdeithasol, creadigol a diwylliannol ac anghenion newidiol ei myfyrwyr, y diwydiant a'r gymuned ehangach.
Mae gan Ysgol Gelf Caerfyrddin enw da yn genedlaethol am ddysgu sgiliau sy'n seiliedig ar drylwyredd academaidd. Wedi'i wreiddio mewn ymarfer crefft, mae sgiliau gwneud arbenigol yn ganolbwynt ym mhob adran ac felly mae gan fyfyrwyr y cyfle prin i ddod yn arbenigwyr mewn meusydd eang fel; castio haearn, gwehyddu, serameg neu gemwaith i enwi ond ychydig.
Nododd 2018 ben-blwydd 40 mlynedd yr Ysgol Gelf yn ei leoliad presennol ar Ffordd Ffynnon Job yng Nghaerfyrddin. Dathlwyd yr achlysur gydag arddangosfa o waith y staff yn tynnu sylw at y ffaith fod gan bob un ohonynt ymarfer personol nodedig sy'n ategu ac ychwanegu at ei gwaith academaidd. Mae'r arddangosfa hon yn ‘Craft in the Bay’ yn cynrychioli ethos yr Ysgol a'r gwneuthurwyr unigol.
Laura Thomas/Llio James/Paula Philips-Davies/Catherine Fairgrieve/Neill Curran/Mike Davies/Sean Vicary/Emily Skinner/Andy Griffiths/Suzanna James/Carol Gwisdak/Lee Odishow/Louise Panter-Whitlock/Amanda Blake/Julie Hutton/Katie Owen/Lindy Martin/Nia Lewis/Ray Church/Tom Fisher/Stephen Hughes/Susan Hayward/Mick Morgan/Owen Evans/Mandy Lane/Jonathen Cox.”